Safiad Casnewydd

Rhwng Mai’r 26ain a Mehefin y 1af mae’r Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau yng Nghasnewydd, De Cymru, fel rhan o’r Syrcas Symudol Anarchaidd. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai, trafodaethau, rhannu sgiliau a mwy. Rydym yn gobeithio bydd y digwyddiadau hyn yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau a heriau y mae rhan fwyaf o bobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd; o broblemau tai, i doriadau mewn lles a llymder economaidd y llywodraeth, yn ogystal â thlodi cynyddol, dinistr amgylcheddol, gormes gan yr heddlu, hiliaeth a’r system ffiniau hiliol.

Os hoffech chi fod yn rhan o drefnu’r digwyddiadau, ebostiwch: anarchistactionnetwork@riseup.net

sallatc

Pam Anarchiaeth?

Anarchiaeth yw’r athroniaeth sy’n ddweud bod dim angen llywodraethau neu feistri arnom: fe allwn ni greu cymunedau wedi selio ar gyd-gymorth a chydsafiad. Mae anarchiaeth yn golygu gwrthod pob math o ddominyddiaeth, gormes a gorfodaeth, gan fyw’n rhydd yma ac yn awr. Anarchiaeth yw’r traddodiad byw o frwydro er mwyn creu.

Anarchiaeth yw’r syniad mwyaf prydferth rydym yn gwybod. Rydym yn credu bod angen inni ledaenu’r neges gadarnhaol am yr hyn mae anarchiaeth yn ei olygu mewn gwirionedd. Beth allwn ni ddysgu o fwy na 200 o flynyddoedd o hanes anarchaidd? Beth all anarchiaeth ei olygu yn yr 21ain ganrif?

Ceir rhagor o wybodaeth yma: http://www.anarchistaction.net/ideas/anarchism/

Pam Casnewydd?

Ar y 4ydd a’r 5ed o Fedi, mae syrcas arall yn dod i Gasnewydd. Eleni y mae NATO yn cynnal ei uwchgynhadledd flynyddol yn y Celtic Manor. Yn gynnar yn y mis fe fydd “arweinwyr y byd” – pob un yn gyfrifol am lofruddiaeth dorfol, artaith anghyfreithlon a rhyfeloedd gyda’r unig nod o amddiffyn diddordebau economaidd Gorllewinol a’i llwybrau cyflenwi adnoddau – yn ymgasglu yn ymyl y ddinas Gymreig hanesyddol yma. Fe fydd llawer o bobl o Gasnewydd, Caerdydd, Bryste a thu hwnt yn dod i’w wrthwynebu ac yn defnyddio amrywiaeth o dactegau yn ei herbyn.

Mae gan Gasnewydd hanes o radicaliaeth. Gwrthryfel y Siartwyr, a ddigwyddodd 175 flwyddyn yn ôl eleni, oedd y gwrthryfel arfog olaf i ddigwydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cafodd darn poblogaidd o gelf gyhoeddus oedd yn dathlu’r gwrthryfel ei ddinistrio fel rhan o waith ailddatblygu’r ddinas, a ariennir gan fenthyciad o £90 miliwn y mae’r Cyngor wedi rhoi i ddatblygwyr wrth dorri cyllid gwasanaethau angenrheidiol. Mae’r ymgais hon i adfer ganol y ddinas trwy chwistrelli arian cyhoeddus i mewn i gwmnïau preifat yn gyfystyr â dim mwy na hapchwarae, ac yn ymuno â rhestr hir sy’n cynnwys LG, y Cwpan Ryder ac yn awr uwchgynhadledd NATO.

Bydd Safiad Casnewydd yn gyfle i bobl ddod i adnabod ei gilydd a thrafod syniadau cyn yr uwchgynhadledd NATO.

Beth ydy’r Syrcas Symudol Anarchaidd?

Mae gan y Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd gynlluniau i gynnal digwyddiadau tebyg o amgylch y DU gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o anarchiaeth ac adeiladu mudiad fydd gyda’r cryfder i weithredu dros newid.

Cyfieithwyd gan Anarco Gyfeithu

One response to “Safiad Casnewydd

  1. Pingback: Two Workshops at Newport Rising « The Peripheries of Anarchy