Cymraeg

Cymraeg (Welsh)

Un Frwydyr Cyffredin!

Ym mis Mehefin mae arweinwyr y G8 (gwledydd cyfoethocaf y byd) yn cyfarfod yng Ngogledd Iwerddon. Fel mae’r argyfwng economaidd yn ein brathu, a mae’r blaned yn llosgi, mae’r meistri ac eu gwleidyddion yn dathlu bod busnes yn cario mlaen fel erioed. Cyfalafiaeth: system sy’n lladd, egsbloitio, ac yn iselhau y nifer fawr o bobl ar gyfer creu elw i unigolion dethol.

Ar 10-14 o Fehefin mae StopG8 <https://network23.org/stopg8/> yn trefnu wythnos o weithredu a digwyddiadau yn Llundain. Mae Llundain yn ganolbwynt i gyfalafiaeth byd-eang. Mae gan y corfforaethau, banciau, cronfeydd ymddiogelu, a biliwnyddion sydd yn ysbeilio ein byd enwau a chyfeiriadau. Maent yn y tyrau gwydr y ‘City’, a’r tu ôl i ddrysau anelwig yn Mayfair a Knightsbridge. Mae Llundain yn ffae gwyngalchu arian, unbeniaid, ag yn faes chwarae i’r mwyaf cyfoethog. Ond, ein dinas ni yw Llundain hefyd. Mae’n ddinas o obaith, gwrthsefyll, ac o frwydro.

Mae cyfalafiaeth yn ein lladd. Diweithdra, toriadau, a thwf ffasgiaeth yn y “Gorllewin”. Tlodi, gwladychu, ac ecsbloetio creulon yn y “Trydydd Byd”. Rhyfel a newyn er mwyn gwneud elw. Carchardai preifat, gwarchae’r heddlu, CCTV er mwyn ein cadw ni’n ofnus ac ein rheoli. Mae’n dwyn harddwch a ystyr o’m bywydau, mae ein breuddwydion a’n urddas ar werth.

Peidiwch ag anwybyddu. Peidiwch ag oedi. Ar gyfer ein ffrindiau ac
anwyliaid, ar gyfer ein cymunedau, ar gyfer ein planed, am bopeth y meant yn ceisio cymryd oddi wrthym. Rwyan ydi’r amser. Gadewch i ni ddod at ei gilydd, ac ymladd. Un frwydr cyffredin.

Ymunwch â ni ar y strydoedd.

10-14 o Fehefin: Wythnos o gweithredu, sgyrsiau, cymdeithasu, ffilmiau, gemau, cyngherddau, a mwy, ar draws Llundain a thu hwnt.

11 o Fehefin: Diwrnod mawr o weithredu yng Nghanol Llundain.

17-18 o Fehefin: Uwchgynhadledd G8, Enniskillen, Gogledd Iwerddon.

#Stopg8

network23.org/stopg8

stopg8@riseup.net